Bell hooks | |
---|---|
Ffugenw | bell hooks |
Ganwyd | Gloria Jean Watkins 25 Medi 1952 Hopkinsville |
Bu farw | 15 Rhagfyr 2021 o methiant yr arennau Berea |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, academydd, llenor |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Ain't I a Woman?, All About Love: New Visions, We Real Cool: Black Men and Masculinity, Feminist Theory: From Margin to Center, Bone Black: Memories of Girlhood |
Prif ddylanwad | Sojourner Truth, Paulo Freire, Gustavo Gutiérrez, Erich Fromm, Lorraine Hansberry, Nhat Hanh, James Baldwin, Malcolm X, Martin Luther King, Toni Morrison |
Gwobr/au | Gwobrau Llyfrau Americanaidd |
Awdur, athro, ffeminydd, ac actifydd cymdeithasol o'r Unol Daleithiau oedd Gloria Jean Watkins (25 Medi 1952 – 15 Rhagfyr 2021), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei ffugenw bell hooks.[1] Roedd yr enw "bell hooks" wedi'i fenthyg gan ei hen-nain ar ochr ei mam, Bell Blair Hooks.[2]
Ffocws ysgrifennu hooks oedd y rhyngblethedd rhwng hil, cyfalafiaeth a rhywedd, a'r hyn a ddisgrifiodd fel eu gallu i greu a rhoi parhad i systemau o ormes a thra-awdurdod dosbarth. Cyhoeddodd fwy na 30 o lyfrau a nifer o erthyglau ysgolheigaidd, ymddangosodd mewn ffilmiau dogfen, a traddododd ddarlithoedd cyhoeddus gan drafod hil, dosbarth, rhyw, celf, hanes, rhywioldeb, cyfryngau torfol, a ffeministiaeth. Yn 2014, sefydlodd y Sefydliad bell hooks yng Ngholeg Berea yn Berea, Kentucky.[3]
But the Chicago Manual says it is not all right to capitalize the name of the writer bell hooks because she insists that it be lower case.